24 Ion Rhybudd Scam Ffôn
Rydym wedi cael adroddiad y bore yma o rywun ffonio ysgol yng Ngheredigion, mewn ymgais i geisio cael mynediad at eu cyfrifiaduron.
Os byddwch yn derbyn galwad gan unrhyw un heblaw aelodau o’n tîm ynghylch materion TGCh yn eich ysgol, rhowch y ffon lawr ac yna ffoniwch ein Desg Gwasanaeth 01970 633678.