05 Ebr Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016
Oes yna brosiectau digidol diddorol wedi bod yn digwydd yn eich ysgol neu goleg chi eleni?
A yw rhai o’ch addysgwyr neu eich dysgwyr yn haeddu cydnabyddiaeth am waith ardderchog ym maes dysgu digidol?
Gadewch i ni wybod am eich llwyddiannau digidol trwy ymgeisio am Wobr Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016.
Bydd y seremoni wobrwyo yn rhan o’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol sy’n digwydd yn Venue Cymru, Llandudno ar 15 Mehefin 2016.
Mae yna bedwar categori gwobr, a gall ysgolion a cholegau gyflwyno nifer o geisiadau ym mhob categori:
- Gwobr Prosiect Digidol
- Gwobr Adnodd Cymunedol
- Gwobr e-Ddiogelwch
- Gwobr Disgyblion Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 16.00 ar ddydd Llun 18 Ebrill.
Am fanylion llawn, canllawiau i ymgeiswyr ar gyfer pob un o’r categoriau, ewch I’r dudalen DDC ar Hwb.