20 Chw Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017
Oes yna brosiectau digidol diddorol wedi bod yn digwydd yn eich ysgol neu’ch coleg chi eleni?
DA yw rhai o’ch addysgwyr neu eich dysgwyr yn haeddu cydnabyddiaeth am waith ardderchog ym maes dysgu digidol?
Gadewch i ni wybod am eich llwyddiannau digidol trwy ymgeisio am Wobr Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017.
Bydd y seremoni wobrwyo yn rhan o’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol sy’n digwydd yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar 21 Mehefin 2017.
Mae yna bedwar categori gwobr, a gall ysgolion a cholegau gyflwyno nifer o geisiadau ym mhob categori:
- Gwobr Prosiect Digidol
- Gwobr Adnodd Cymuned Hwb
- Gwobr Diogelwch Ar-lein
- Gwobr Disgyblion Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol
Am fanylion llawn, canllawiau i ymgeiswyr ar gyfer pob un o’r categoriau, cliciwch yma. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 16:00 dydd Gwener 7 Ebrill.