02 Mai Digwyddiad Dysgu Cenedlaethol 2017
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal y Gwobrau a’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol yn Stadiwm Liberty, Abertawe ddydd Mercher 21 Mehefin 2017.
Y thema eleni yw ‘Dulliau creadigol o weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol’, sy’n adeiladu ar thema 2016, sef ‘Adeiladu Hyder Digidol’.
Gallwch gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ar Hwb o 9.00am ddydd Llun 8 Mai 2017. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru os ydych yn dymuno mynd, gan mai nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i hwb@wales.gsi.gov.uk